Dewiswch eich iaith
Rydym wedi lansio Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi ei ddiweddaru. Mae'n berthnasol i bawb sydd wedi cofrestru gyda CGA, ac yn adlewyrchu'r disgwyliadau sy'n datblygu o ran ymarferwyr, a phwysigrwydd diogelu dysgwyr a phobl ifanc, a chynnal hyder y cyhoedd a safonau uchel. Darllen y Cod wedi ei ddiweddaru, ynghyd â'r adnoddau.
Croeso cynnes i bawb sy'n ymuno. neu'n dychwelyd i'r gweithlu addysg ym mis Medi. Gobeithio eich bod wedi cael haf i'w gofio.
Gweld pa wasanaethau sydd gyda ni ar gael i chi fel cofrestreion.
Gallwch gysylltu â ni trwy un o’n dulliau niferus yn Gymraeg neu Saesneg. Pa iaith bynnag y byddwch yn ei dewis, ni fydd yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar yr ymateb a gewch. Mwy o wybodaeth am ddefnyddio eich Cymraeg yn y fideo.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu syniadau ar gyfer ein blog, cysylltwch â
Barn yr awduron eu hunain ydyw ym mhob achos.
09 Rhag 2024
25 Hyd 2024
15 Mai 2024
17 Chwe 2022
27 Med 2021
04 Mai 2021
26 Chwe 2021
16 Chwe 2021
21 Hyd 2020
02 Hyd 2020
22 Gor 2020
21 Ion 2020
Yn yr adran hon, gallwch ddarllen ein cynlluniau a’n hadroddiadau sy’n dangos sut rydym ni’n cyflawni ein prif nodau, sef:
Mae ein Cynllun Strategol 2025-28 yn amlinellu ein gweledigaeth, sef bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’n amlinellu’r blaenoriaethau a’r amcanion a fydd yn ein helpu i wireddu’r weledigaeth hon a’r gwerthoedd a fydd wrth wraidd ein hymagwedd dros y tair blynedd nesaf.
Darllenwch ein Cynllun Strategol 2025-28.
Rydym ni’n ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac am chwarae ein rhan i greu Cymru decach. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut byddwn ni’n cofleidio ein rôl wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, o fewn ein sefydliad ac (o fewn ein cylch gwaith) ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.
Darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 .
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o’n cynnydd a’n heffaith dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac mae’n amlygu rhai o’n cyflawniadau allweddol. Hefyd, mae’n esbonio ein llywodraethiant, ein hadnoddau ariannol a’n cynlluniau at y dyfodol.
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024/25
Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad priodoldeb i ymarfer blynyddol sy’n amlinellu:
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2024/25
Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb sy’n amlygu’r cynnydd a wneir bob blwyddyn tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2024/25
Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth am sut rydym ni wedi cydymffurfio ac mae’n amlinellu sut rydym ni wedi gweithredu’r safonau.
Darllenwch ein Hadroddiad monitro blynyddol Safonau’r Gymraeg 2024/25
Darllenwch fwy am sut rydym ni’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.