Mae’r uwch dîm rheoli yn gweithio gyda’r Cyngor pan fydd yn datblygu strategaeth ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Nhw sy’n gyfrifol am weithgareddau’r sefydliad o ddydd i ddydd ac am ddarparu arweiniad corfforaethol.
Lisa Winstone, Prif Weithredwr dros dro
Mae Lisa yn gyfrifol am arwain a rhoi cyfeiriad strategol i’r CGA, gan weithredu yn unol â’i gyfrifoldebau statudol fel y’u nodir yn Neddf Addysg (Cymru) 2014.
Mae’n ymrwymedig i weithio gyda chofrestreion a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, undebau llafur/cymdeithasau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru.
Yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cyfrifyddu, hi sy’n gyfrifol am sicrhau bod CGA yn cynnig gwerth am arian i gofrestreion ac yn defnyddio’i adnoddau yn effeithlon.
Ymunodd Lisa â CGA yn 2018, yn dilyn ei rôl flaenorol fel Pennaeth Cynllunio a Dadansoddi Ariannol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
David Browne, Cyfarwyddwr Rheoleiddio
Mae David yn gyfrifol am gynnal a datblygu Cofrestr Ymarferwyr Addysg Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ein swyddogaeth priodoldeb i ymarfer, ymchwilio i a gwrando achosion a atgyfeirir i CGA, yn ogystal â dadansoddi ac adrodd data, a llywodraethu data.
Ymunodd David â CGA ym mis Tachwedd 2020, gan weithio fel Pennaeth Priodoldeb i Ymarfer i ddechrau, cyn symud i'w swydd bresennol ym mis Medi 2023. Swydd flaenorol David oedd fel uwch swyddog undeb llafur gydag undeb addysgu.
Mae David yn Ddirprwy Brif Weithredwr Dros Dro.
Bethan Holliday-Stacey, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi
Bethan sy’n gyfrifol am achredu rhaglenni proffesiynol a hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiwn addysg, datblygiad proffesiynol, cynllunio a chyfathrebu strategol, a datblygu polisi.
Ymunodd Bethan â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngAC) yn 2000, a bu'n Rheolwr Tîm Datblygiad Proffesiynol a Chyllido o 2006, cyn symud i’w swydd bresennol yn 2018.
Kerry Price, Cyfarwyddwr Dros Dro Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Mae Kerry yn gyfrifol am gynllunio, monitro, ac adrodd ariannol, yr holl faterion llywodraethu ariannol, gan gynnwys y swyddogaeth archwilio, adnoddau dynol, a chefnogaeth gorfforaethol, a systemau gwybodaeth.
Penodwyd Kerry fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol dros dro o 1 Awst 2025, ar secondiad o Cymwysterau Cymru, lle mae wedi bod yn Bennaeth Cyllid ers 2015. Cyn hynny roedd ganddo uwch rolau cyllid mewn llywodraeth leol ac iechyd.