CGA / EWC

Fitness to practise banner
Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer
Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi mewnwelediadau clir ac ymarferol i'r disgwyliadau a'r safonau a ddisgwylir gennych yn eich arfer proffesiynol, a'ch bywyd personol.

Yn seiliedig ar esiamplau go-iawn maent yn dangos yr heriau cyffredin a'r peryglon all arwain at wrandawiad priodoldeb i ymarfer. Drwy amlygu'r sefyllfaoedd hyn, ein bwriad yw cynnig pwyntiau dysgu gwerthfawr i'ch helpu i gynnal y safonau uchaf yn eich proffesiwn, a diogelu eich cofrestriad.

Cyswllt corfforol amhriodol â dysgwr

Yn yr astudiaeth achos hon, edrychwn ar enghraifft o gofrestrai a ataliwyd rhag gweithio dros dro yn dilyn achos a brofwyd o ymddygiad proffesiynol annerbyniol mewn perthynas â’i gyswllt corfforol amhriodol â dysgwr.

Crynodeb o’r achos

Cafodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) atgyfeiriad gan gyflogwr ar ôl i aelod o staff cofrestredig gael ei ddiswyddo. Diswyddwyd y cofrestrai oherwydd daeth i’r amlwg ei fod wedi cael cyswllt corfforol amhriodol â dysgwr.

Yn ystod y gwrandawiad hwn, gofynnwyd i’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer ystyried p’un a oedd yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod y cofrestrai:

  1. wedi gafael yn arddwrn neu fraich disgybl:

a. pan nad oedd yn rhesymol nac yn angenrheidiol gwneud hynny yn yr amgylchiadau; ac
b. wedi defnyddio mwy o rym nag oedd yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

Mynychodd y cofrestrai’r gwrandawiad, ac fe’i cynrychiolwyd. Gwadodd y cofrestrai’r honiadau.

Canfyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd iddo (gyda chymorth cynghorydd cyfreithiol annibynnol) a ph’un a fyddai’r cyhoedd o’r farn bod yr honiadau’n gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Roedd y Pwyllgor o’r farn bod gafael ym mraich a/neu arddwrn dysgwr mewn modd afresymol a diangen, gyda mwy o rym nag oedd angen yn yr amgylchiadau, yn gyfystyr ag ymddygiad a oedd yn fyr o’r safon a ddisgwylir gan gofrestrai.

Ac yntau’n weithiwr proffesiynol, roedd gan y cofrestrai gyfrifoldeb am iechyd a lles y dysgwyr yr oedd yn gweithio gyda nhw, ac roedd yn cael ei ystyried yn ddelfryd ymddygiad iddynt.

Penderfynodd y Pwyllgor fod ymddygiad y cofrestrai’n debygol o effeithio ar ymddiriedaeth a ffydd y cyhoedd mewn gweithwyr proffesiynol cofrestredig.

Ar ôl ystyried holl amgylchiadau’r achos hwn yn ofalus, daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod Gorchymyn Atal Dros Dro (heb amodau) yn ddigonol i fynd i’r afael â’r pryderon budd y cyhoedd.

Roedd hwn yn achos difrifol o ymddygiad proffesiynol annerbyniol ac nid oedd cosb lai yn ddigonol. Fodd bynnag, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd yr ymddygiad a brofwyd yn sylfaenol anghydnaws â bod yn gofrestrai pan ystyriwyd y cyd-destun ehangach yn llawn.

Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Yn yr achos hwn, roedd yr unigolyn yn torri sawl un o egwyddorion y Cod, gan gynnwys bod cofrestreion:

Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol

1.1          yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel delfryd ymddwyn a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo.

1.2          yn cynnal perthnasoedd â dysgwyr a phobl ifanc yn broffesiynol, drwy:

  • gyfathrebu â dysgwyr a phobl ifanc yn barchus, mewn ffordd sy’n briodol iddynt
  • sicrhau bod unrhyw gysylltiad corfforol yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur

1.4          yn meddu ar ddyletswydd gofal dros ddiogelwch dysgwyr a phobl ifanc a’u llesiant corfforol, cymdeithasol, moesol, ac addysgol, drwy:

  • weithredu ynghylch unrhyw beth a allai beryglu diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc
  • rhoi gwybod, yn unol â 5.3, am unrhyw fater diogelu, neu unrhyw fater arall, a allai o bosibl niweidio diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc.

Unplygrwydd proffesiynol

2.1          yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol

5.3          yn gwybod, yn deall, ac yn cydymffurfio â’r polisïau, gweithdrefnau, a chanllawiau diogelu cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer.

Gwersi a ddysgwyd

Mae cyswllt corfforol â dysgwyr a phobl ifanc yn angenrheidiol ac yn gymesur weithiau mewn lleoliadau addysg a hyfforddiant. Fe all hefyd fod yn anogol ac yn gadarnhaol pan gaiff ei ddefnyddio’n briodol.

Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn ymddwyn yn dderbyniol ac yn broffesiynol ym mhob sefyllfa.

Fe’ch anogwn yn gryf i ymgyfarwyddo â’r arweiniad gorfodol cenedlaethol perthnasol, yn ogystal ag arweiniad a pholisïau lleol penodol fel codau ymddygiad, diogelu, ymddygiad/disgyblu ac iechyd a diogelwch.

Os bydd rhywbeth yn mynd o chwith, gall ymyrraeth gynnar fod yn amhrisiadwy. Ceisiwch gyngor a chymorth cyn gynted â phosibl gan eich rheolwr llinell, undeb llafur neu, o leiaf, rywun rydych yn ymddiried ynddo.

Darllen ac arweiniad pellach

Canllaw arfer da: Cyswllt corfforol priodol â dysgwyr a phobl ifanc