Lawrlwytho'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Fersiwn BSL o'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Diweddarwyd Medi 2025
Y CGA
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ydym ni, sef rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (y Ddeddf).
Rydym yn cofrestru ac yn rheoleiddio ymarferwyr addysg ar draws ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu oedolion/dysgu seiliedig ar waith, ac rydym yn gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau ar draws y sectorau hyn.
Yr enw ar ymarferwyr ar ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yw ‘cofrestreion’ ac maent yn cynnwys y categorïau canlynol:
- athrawon ysgol*
- gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion
- athrawon ysgolion annibynnol
- gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol
- athrawon addysg bellach*
- gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach
- penaethiaid neu uwch-arweinwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach
- athrawon sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
- gweithwyr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
- ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
- ymarferwyr dysgu oedolion*
- gweithwyr ieuenctid*
- gweithwyr cymorth ieuenctid*
Mae cofrestreion yn gweithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau addysg a hyfforddiant, gydag amrywiol lefelau o gyfrifoldeb, ar draws meysydd ymarfer gwahanol.
Mae’n ofynnol i bob cofrestrai gynnal y safonau a amlinellir yn y Cod hwn.
Y Cod
Mae gofyniad cyfreithiol arnom o dan y Ddeddf i gyhoeddi cod sy’n amlinellu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan unigolion sydd wedi cofrestru gyda ni.
Mae ein Cod yn datgan yn glir i’n cofrestreion yr egwyddorion ymddygiad ac ymarfer proffesiynol da allweddol y mae disgwyl iddynt eu cynnal er mwyn parhau i gofrestru. Hefyd, mae’n galluogi dysgwyr a phobl ifanc, a phawb sy’n ymwneud â’u haddysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn enwedig rhieni/gwarcheidwaid, i wybod beth y dylent ei ddisgwyl gan gofrestreion.
Lle nad yw disgwyliadau’n cael eu bodloni, gallem benderfynu ymchwilio a gwrando ar honiadau sy’n cael eu hatgyfeirio i ni er mwyn penderfynu p’un a ddylai cofrestriad ymarferwr barhau. Mae gennym bwerau cyfreithiol i wneud hyn. Mae pob achos sy’n destun ymchwiliad yn cael ei ystyried ar sail ei rinweddau ei hun, gan gynnwys lleoliad cyflogaeth y cofrestrai dan sylw. Mae’r Cod yn fan cyfeirio pwysig ar gyfer penderfynu p’un a ddylai unrhyw honiadau y canfyddir eu bod yn wir arwain at gosb ddisgyblu gymesur.
Hefyd, mae’r Cod yn ein helpu i benderfynu a yw’r bobl sy’n gwneud cais i gofrestru gyda ni yn addas.
Y chwe egwyddor allweddol
Mae cofrestreion, gan gynnwys cofrestreion sydd wedi’u cofrestru dros dro, yn ymrwymo i gynnal egwyddorion allweddol:
- Cyfrifoldeb personol a phroffesiynol
- Unplygrwydd proffesiynol
- Cydweithio
- Arweinyddiaeth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol
- Dysgu proffesiynol
A. Ymddygiad proffesiynol
1. Cyfrifoldeb personol a phroffesiynol
Mae cofrestreion:
- yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model o ymddygiad, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo
- yn cynnal perthnasoedd â dysgwyr a phobl ifanc yn broffesiynol, drwy:
- gyfathrebu â dysgwyr a phobl ifanc yn barchus, mewn ffordd sy’n briodol iddynt
- defnyddio pob math o gyfathrebu mewn modd priodol a chyfrifol, yn arbennig y cyfryngau cymdeithasol
- sicrhau bod unrhyw gysylltiad corfforol yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur
- cyfrannu at greu amgylchedd dysgu teg a chynhwysol drwy fynd i’r afael â gwahaniaethu, ystrydebu a bwlio
- cynnal ffiniau proffesiynol
- yn ymgysylltu â dysgwyr a phobl ifanc i annog hyder, grymuso, a datblygiad addysgol a phersonol
- yn meddu ar ddyletswydd gofal dros ddiogelwch dysgwyr a phobl ifanc a’u llesiant corfforol, cymdeithasol, moesol ac addysgol, drwy:
- roi buddiannau dysgwyr a phobl ifanc yn gyntaf
- gweithredu ynghylch unrhyw beth a allai beryglu diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc
- rhoi gwybod, yn unol â 5.3, am unrhyw fater diogelu, neu unrhyw fater arall a allai o bosibl niweidio diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc
- bod yn addas i ymarfer, sy’n cynnwys peidio â chael eu hamharu gan alcohol neu unrhyw sylwedd arall
- yn rheoli eu hiechyd, eu diogelwch, a’u llesiant personol eu hunain, a’u bod yn ystyriol o iechyd, diogelwch, a llesiant personol eu cydweithwyr
- yn dangos parch at gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymrwymiad iddynt, sy’n cynnwys herio a/neu roi gwybod am ymddygiad sy’n gwahaniaethu ac unrhyw ymddygiad annerbyniol arall
- yn deall bod y Cod yn berthnasol yn syth ar ôl cofrestru, wrth adnewyddu cofrestriad, a thrwy gydol y cyfnod cyflogaeth pan mae’n ofynnol cofrestru gyda CGA, gan gynnwys cyfnodau sefydlu statudol a chyfnodau prawf
2. Unplygrwydd proffesiynol
Mae cofrestreion:
- yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol
- yn ymddwyn yn onest, yn foesegol, gydag unplygrwydd, yn enwedig o ran:
- cyllid ac arian yn y gweithle, yn enwedig y rhai sy’n gyfrifol am reoli/dosbarthu cyllid mewn sefydliadau addysg sy’n cael eu hystyried yn fusnesau
- rhinweddau, profiad a chymwysterau personol
- geirdaon, datganiadau sy’n ofynnol (yn enwedig yn gysylltiedig â cheisiadau i gofrestru gyda CGA, a chyflogaeth), ac wrth lofnodi dogfennau
- asesu a thasgau’n gysylltiedig ag arholiadau
- eiddo a chyfleusterau eu cyflogwr
- cyfathrebu â CGA, gan ei hysbysu am unrhyw euogfarn droseddol neu rybuddiad cofnodadwy, neu gyfyngiad a osodir ar eu hymarfer gan unrhyw gorff arall
- eu cyflogwr, ac adrodd am unrhyw fater sy’n ofynnol yn ôl telerau ac amodau eu cyflogaeth
- eu hymddygiad yn y gweithle a thu allan iddo
- yn ymdrin â gwybodaeth a data mewn modd priodol, gan gymhwyso’r protocolau angenrheidiol i faterion yn ymwneud â chyfrinachedd, sensitifrwydd a datgelu
- yn glynu wrth safonau ymddygiad cyfreithlon, mewn modd sy’n cyd-fynd â’u statws fel un o gofrestreion CGA
3. Cydweithio
Mae cofrestreion:
- yn parchu, yn cynorthwyo, ac yn cydweithio â chydweithwyr, dysgwyr, pobl ifanc, ac eraill i gyflawni’r deilliannau dysgu gorau
- yn rhannu profiad a gwybodaeth i helpu eu hunain ac ymarferwyr eraill i ddatblygu a chynnal arfer gorau (gweler Adran B)
- yn ceisio datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith proffesiynol ac ymatebol â rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr, a rhanddeiliaid eraill
- yn cyfathrebu mewn modd priodol ac effeithiol gyda phob un sy’n gysylltiedig ag addysg dysgwyr a phobl ifanc
4. Arweinyddiaeth
Mae cofrestreion â chyfrifoldebau arwain a rheoli:
- yn ymgorffori’r Cod ac yn arwain trwy esiampl
- yn hyrwyddo ac yn annog diwylliant sefydliadol cadarnhaol o barch, unplygrwydd, atebolrwydd, a phroffesiynoldeb
- yn rheoli staff, adnoddau a risg yn effeithiol, gan gynnwys er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn gallu cael at y cymorth, yr hyfforddiant, a’r oruchwyliaeth angenrheidiol i fodloni’r safonau disgwyliedig
- yn atebol am benderfyniadau ac am ddirprwyo tasgau
B. Ymarfer proffesiynol
5. Gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol
Mae cofrestreion:
- yn gwybod y safonau proffesiynol sy’n berthnasol i’w proffesiwn/sector penodol mewn addysg, ac yn eu bodloni, drwy gydol eu gyrfa
- yn gwybod, yn deall, ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
- yn gwybod, yn deall, ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau diogelu cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
- lle bo angen, yn ceisio cymorth, cyngor, ac arweiniad ac yn agored i adborth, gan ymateb iddo mewn modd cadarnhaol ac adeiladol
6. Dysgu proffesiynol
Mae cofrestreion:
- yn dangos ymrwymiad ar y cyd i’w dysgu proffesiynol parhaus drwy fyfyrio ar eu hymarfer a’i werthuso, sicrhau bod eu gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol yn gyfredol a chymryd camau i wella ansawdd eu hymarfer, lle bo angen
C. Cyhoeddi ac adolygu
Mae’r Cod ar gael yn rhad ac am ddim ar ein gwefan ar ffurf hawdd ei ddarllen, testun bras a fformatau eraill, os oes angen.
Mae’r Cod hwn yn disodli’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer cofrestreion, a gyhoeddwyd gennym ar 10 Mai 2024. Yn unol â’r Ddeddf, byddwn yn adolygu’r Cod bob tair blynedd.
Mae ein canllawiau arfer da yn ategu’r Cod hwn
*mae angen cymwysterau gofynnol penodol ar y categorïau cofrestru hyn. Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau cofrestru ar ein gwefan