Prif Weithredwr
Cyflog: £95,231 – £111,359
Lleoliad: Gweithio hybrid (ar hyn o bryd, tri diwrnod yr wythnos yn y swyddfa yng Nghaerdydd)
Ydych chi’n barod i arwain sefydliad cenedlaethol sy’n ganolog i addysg yng Nghymru?
Rydym yn chwilio am Brif Weithredwr blaengar a phrofiadol i arwain ein cyfeiriad strategol a’i weithrediadau. Fel y corff rheoleiddio proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, rydymyn chwarae rôl hanfodol wrth gynnal proffesiynoldeb a safonau ar draws ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu oedolion/seiliedig ar waith.
Dyma gyfle unigryw i arwain sefydliad â chylch gwaith statudol, gan weithio er budd y cyhoedd i ddiogelu dysgwyr ac i gynnal safonau proffesiynol. Bydd y Prif Weithredwr yn goruchwylio swyddogaethau rheoleiddio CGA, gweithrediadau ariannol, ac ymgysylltu strategol â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i sicrhau ein bod yn parhau i ddylanwadu ar bolisi ac yn cefnogi datblygiad y gweithlu ledled Cymru.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â:
- phrofiad sylweddol o arwain ar lefel uwch yn y sector rheoleiddio, addysg neu’r sector cyhoeddus ehangach;
- dealltwriaeth glir o gylch gwaith a chyfrifoldebau CGA;
- profiad cadarn o reoli cyllidebau a llywodraethu;
- y gallu i feithrin perthnasoedd dibynadwy ar lefel Weinidogol ac ar draws y sector addysg a rheoleiddio.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
I gael trafodaeth anffurfiol a chopi o friff yr ymgeisydd, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu
Dyddiad cau: 12:00, 29 Medi 2025
Cyfweliadau Panel Terfynol: 16ac 17 Hydref 2025