CGA / EWC

About us banner
Cod Ymddygiad wedi ei ddiweddaru ar gyfer gweithlu addysg Cymru
Cod Ymddygiad wedi ei ddiweddaru ar gyfer gweithlu addysg Cymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi ei ddiweddaru heddiw (1 Medi 2025), gan osod y safonau, ymddygiadau, a gwerthoedd a ddisgwylir gan gofrestreion sy'n gweithio ym mid addysg yng Nghymru.

Mae'r Cod yn ddogfen allweddol ac mae'n berthnasol i bawb sydd wedi cofrestru gyda CGA, o athrawon a staff cymorth mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, i'r rheiny mewn gwaith ieuenctid, a dysgu'n seiliedig ar waith/oedolion. Mae'n adlewyrchu'r disgwyliadau sy'n datblygu o ran ymarferwyr, a phwysigrwydd diogelu dysgwyr a phobl ifanc, a chynnal hyder y cyhoedd a safonau uchel.

Mae'r ddogfen hefyd yn rhoi gwybod i ddysgwyr a phobl ifanc, a'r rheiny sy'n rhan o'u haddysg a'u hyfforddiant yng Nghymru, yn enwedig rhieni/gwarcheidwaid, i wybod beth allant ddisgwyl gan gofrestreion.

Mae'r fersiwn diweddaraf yma wedi ei gyhoeddi yn dilyn ymgynghoriad gyda chofrestreion, rhanddeiliaid, a'r cyhoedd.

Gan esbonio beth sydd wedi newid yn y Cod, dywedodd Prif Weithredwr dros dro CGA, Lisa Winstone, "Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi adborth yn ystod ein hymgynghoriad cyhoeddus.

"Y Cod yw un o'r dogfennau pwysicaf ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru. Mae'r diweddariadau ry'n ni wedi eu gwneud yn sicrhau bod y Cod bellach yn berthnasol i'r 13 categori y mae gofyn i ni eu cofrestru fel y rheoleiddir annibynnol, proffesiynol. Mae hefyd yn sicrhau bod y ddogfen yn cydymffurfio gydag arfer da o ran terminoleg.

"Drwy ddilyn egwyddorion y Cod, mae unigolion yn gallu arddangos yr ansawdd a'r safonau y disgwyliwn gan y proffesiwn, gan roi sicrwydd i ddysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a'r cyhoedd."

Anogir cofrestreion, cyflogwyr ac asiantaethau, a rhieni/gwarcheidwaid i ddarllen y Cod, ac i ymgyfarwyddo â'r egwyddorion ynddo. Mae CGA hefyd wedi creu ystod o adnoddau yn cefnogi unigolion a chyflogwyr i ddeall y Cod a rhoi'r egwyddorion ynddo ar waith. Mae hyn yn cynnwys gweminarau ar-alw, canllawiau arfer da, animeiddiadau, ac i rieni/gwarcheidwaid, canllaw wedi ei ddiweddaru i'w helpu i chwarae rôl fwy gweithredol yn addysg eu plant.

Mae'r Cod wedi ei ddiweddaru, ynghyd â'r adnoddau, ar gael nawr ar wefan CGA.