CGA / EWC

About us banner
Digwyddiad briffio ystadegau blynyddol y gweithlu addysg
Digwyddiad briffio ystadegau blynyddol y gweithlu addysg

10:30-12:00, 14 Hydref 2025

Mae'r briffiad yn dod yn sgil cyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2025.

Rhannodd ein cyflwynwyr trosolwg o ddata 2025, gan amlygu prif dueddiadau o'r 13 categori cofrestru, a dros 91,000 o gofrestreion. Am y tro cyntaf eleni, fe wnaeth hefyd gynnwys gwybodaeth ar ymarferwyr dysgu oedolion, a phenaethiaid neu uwch arweinwyr yn gweithio mewn addysg bellach.

Roedd y digwyddiad yma, ar gyfer arweinwyr addysg, gwneuthurwyr polisi, ac uwch staff, yn helpu mynychwyr i ddeall yr ystadegau a chefnogi cynllunio'r gweithlu, strategaeth, a datblygu polisi yn y dyfodol.

Yn dilyn y prif gyflwyniad, cafodd y mynychwyr gyfle i holi cwestiynau ar y wybodaeth a gyflwynwyd.

Gweld y cyflwyniad a ddefnyddiwyd.

Bydd recordiad o'r digwyddiad ar gael cyn bo hir.