Indira Yagambrun – 25 Medi 2026
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 17 a 21-25 Medi 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes ysgol, Miss Indira Yagambrun.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Gynradd Romilly, Bro Morgannwg, bod Miss Yagambrun:
- ar neu o gwmpas 22 Mehefin 2022, wedi dweud wrth Gydweithiwr 7 na allai llun o Miss Yagambrun gael ei gynnwys ar boster diogelu oherwydd ei bod hi dan amddiffyniad yr heddlu, neu eiriau i’r perwyl hwnnw, er nad oedd hynny’n wir
- rhwng tua 1 Ionawr 2022 a 5 Medi 2025, wedi dweud wrth Gydweithiwr 3 ei bod hi’n destun ymchwiliad, neu eiriau i’r perwyl hwnnw, er nad oedd hynny’n wir
- rhwng 2020 a 5 Medi 2025, wedi gweiddi neu godi ei llais ar Gydweithiwr 4 a dweud wrth Gydweithiwr 4 “na chaniatawyd” iddi brynu castell neidio, ei fod yn “syniad hurt” a’i bod hi’n “trechu” Cydweithiwr 4, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- rywbryd ym mis Mehefin 2022, ar ddiwrnod ffair ysgol, wedi dweud wrth Gydweithiwr 4 fod ei hasesiadau risg “ddim yn ddigon da”, a bod rhaid i’r ffair ysgol gael ei “chanslo”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- rywbryd yn 2013, wedi dweud wrth Gydweithiwr 5 fod “un o’r athrawon newydd gymhwyso’n methu” ac y byddai Cydweithiwr 5 yn “canfod ai hi ydoedd”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Miss Yagambrun yn anonest ym mharagraff 1, yn dangos diffyg unplygrwydd ym mharagraffau 1 a 2, yn gyfystyr â bwlio ym mharagraff 5, ac yn fygythiol ac yn afresymol ym mharagraffau 3, 4 a 5.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Miss Yagambrun o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori athrawes ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Miss Yagambrun wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Miss Yagambrun yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 25 Medi 2028, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Miss Yagambrun hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



