Janine Brill – 20 Mai 2026
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 11 i 15 Mai 2026, a 18 i 20 Mai 2026. wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes ysgol, Janine Brill.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi gan Ysgol Gynradd Goetre (‘yr Ysgol’) fel Pennaeth, a/neu ar ôl ei hymddeoliad, bod Mrs Brill:
- wedi caniatáu i’r Ysgol lunio contract ar gyfer dyfeisiau amlswyddogaeth ac argraffyddion dosbarth (“Contract mis Ionawr 2019”) gyda Chwmni 1 ar neu o gwmpas 24 Ionawr 2019, ac nad oedd:
- wedi cynnig Contract mis Ionawr 2019 ar gyfer tendrau
- wedi ceisio o leiaf dri dyfynbris yn ysgrifenedig cyn ei lunio
- wedi cael cymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu’r Ysgol i lunio Contract mis Ionawr 2019
- wedi sicrhau bod Contract mis Ionawr 2019 yn cynrychioli gwerth am arian; a/neu werth gorau
- wedi sicrhau eu bod yn ymwybodol o gostau gwirioneddol neu amcangyfrifedig y contract cyn llunio Contract mis Ionawr 2019
- wedi caniatáu i’r Ysgol lunio contract arall ar gyfer dyfeisiau amlswyddogaeth ac argraffyddion dosbarth (“Contract mis Chwefror 2019”) gyda Chwmni 1 ar neu o gwmpas 13 Chwefror 2019 a phan oedd:
- yn gwybod bod pryderon wedi cael eu codi ynglŷn â Chontract mis Ionawr 2019
- wedi cael cyfarwyddyd i ohirio’r broses osod tra bod y mater yn cael ei adolygu
- heb gynnig Contract mis Chwefror 2019 ar gyfer tendrau
- geisio o leiaf dri dyfynbris yn ysgrifenedig cyn ei lunio
- heb gael cymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu’r Ysgol i lunio Contract mis Chwefror 2019
- heb sicrhau bod Contract mis Chwefror 2019 yn cynrychioli gwerth am arian; a/neu werth gorau
- heb sicrhau eu bod yn ymwybodol o gostau gwirioneddol neu amcangyfrifedig Contract mis Chwefror 2019
- wedi caniatáu i’r Ysgol lunio contract ar gyfer dyfeisiau amlswyddogaeth ac argraffyddion dosbarth (“Contract mis Mawrth 2020”) yn ystod neu o gwmpas mis Mawrth 2020 pan oedd:
- yn gwybod bod pryderon wedi cael eu codi ynglŷn â Chontract mis Ionawr 2019 a/neu fis Chwefror 2019, a/neu ymddygiad Cwmni 1 mewn perthynas â’r contractau hyn
- heb gynnig Contract mis Mawrth 2020 ar gyfer tendrau
- geisio o leiaf dri dyfynbris yn ysgrifenedig cyn llunio Contract mis Mawrth 2020
- heb gael cymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu’r Ysgol i lunio Contract mis Mawrth 2020
- heb sicrhau bod Contract mis Mawrth 2020 yn cynrychioli: gwerth am arian; a/neu werth gorau
- heb sicrhau bod prosesau caffael y cyngor a/neu reoliadau ariannol y cyngor yn cael eu dilyn:
- ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod Mrs Brill yn dangos diffyg uniondeb
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mrs Brill o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori Athrawes Ysgol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mrs Brill wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 3 blynedd fynd heibio. Os na fydd Mrs Brill yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 20 Mai 2029, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mrs Brill hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



