Phillip John Deacon – 2 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd ar 23 Chwefror i 2 Mawrth 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Phillip Deacon.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro ysgol yn Ysgol Uwchradd Lliswerry, bod Mr Deacon:
- ar 5 Gorffennaf 2022 o ran Uned 1 (Archwilio Busnes) o Lefel 3 BTEC Cenedlaethol mewn Busnes, fe wnaeth ddarparu graddau dysgwyr i Gydweithiwr A i gyflwyno i'r bwrdd arholi, Pearson, pan nad oedd yr holl waith wedi ei gwblhau ac i'r safon i gyfiawnhau'r marciau a ddyfarnwyd
- rhwng 5 Gorffennaf 2022 ac Ionawr 2023, o ran Uned 1 (Archwilio Busnes) o Lefel 3 BTEC Cenedlaethol mewn Busnes, ar ôl i raddau'r dysgwyr gael eu cyflwyno i'r bwrdd arholi, ond cyn safoni:
- wedi rhoi adborth i ddysgwyr ar eu gwaith
- wedi caniatáu i ddysgwyr newid a gwella eu gwaith
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mr Deacon anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Deacon oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro ysgol. Penderfynnodd hefyd na fyddai Mr Deacon yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Deacon wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 2 Mawrth 2028, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Deacon yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.



