Arthur Rowland Thomas – 17 Medi 2025
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 16 ac 17 Medi 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Arthur Thomas.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel darlithydd yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe, fe wnaeth Mr Thomas afael mewn dysgwr wrth eu llaw neu eu harddwrn, a defnyddio iaith amhriodol ym mhresenoldeb dysgwyr.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Thomas fel athro addysg bellach ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 17 Medi 2025 a 17 Medi 2027). O'r herwydd bydd Mr Thomas yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu i sefydliad addysg bellach yng Nghymru ac (ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith), sy'n darparu gwasanaethau ar ran corff dysgu'n seiliedig ar waith (heblaw fel gwirfoddolwr) yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Thomas yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.