Richard Evan Davies – 8 Mai 2025
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 8 Mai 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Richard Evan Davies
Canfu'r Pwyllgor bod Mr Davies:
Ar 6 Hydref 2023, wedi ei gael yn euog o ymosodiad yn achosi gwir niwed corfforol, yn erbyn adran 47 Deddf Troseddau yn Erbyn Person 1861.
O ganlyniad i'r drosedd cafodd ddedfryd o:
- gorchymyn dedfryd ohiriedig - carchar am 15 mis, wedi ei ohirio am 18 mis
- gofyniad ymataliad rhag alcohol
- gofyniad o weithgarwch adsefydlu
- 90 diwrnod o ofyniad tagio electronig preswyl
Ar ôl gwneud y canfyddiad yma, penderfynodd y Pwyllgor hefyd bod yr ymddygiad yn drosedd berthnasol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Mr Davies fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 18 mis (rhwng 8 Mai 2025 a 8 Tachwedd 2026). O'r herwydd ni fydd Mr Davies yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y gorchymyn.
Mae gan Mr Davies yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.