Amy Warhurst – 22 Gorffennaf 2025
Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 17 Mehefin a 22 Gorffennaf 2025, wedi canfod bod honiadau o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ a ‘throseddau perthnasol’ wedi’u profi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Amy Warhurst.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Miss Warhurst:
- Ar 29 Mawrth 2010, wedi cael ei heuogfarnu o’r troseddau canlynol yn Llys y Goron Dinas Manceinion:
- cynllwyn i dwyllo ar 12 Hydref 2007 tan 6 Mawrth 2009, yn groes i’r Gyfraith Gyffredin, y cafodd ei dedfrydu i 45 wythnos o garchar ar ei gyfer ar 2 Awst 2010
- cynllwyn i dwyllo ar 5 Awst 2008 tan 29 Hydref 2008, yn groes i’r Gyfraith Gyffredin, y cafodd ei dedfrydu i 45 wythnos o garchar (cydredol) ar ei gyfer ar 2 Awst 2010
- cynllwyn i dwyllo ar 3 Rhagfyr 2008 tan 2 Ebrill 2009, yn groes i’r Gyfraith Gyffredin, y cafodd ei dedfrydu i 45 wythnos o garchar (cydredol) ar ei gyfer ar 2 Awst 2010
- Ar 18 Ionawr 2017, wedi cael ei heuogfarnu o’r drosedd ganlynol yn Llys Ynadon Conwy:
- dwyn (Siopladrad) ar 31 Awst 2016 yn groes i adran 1 Deddf Dwyn 1968, y cafodd ddirwy o £80 ar ei gyfer
- Ar 23 Mai 2017, wedi cael ei heuogfarnu o’r drosedd ganlynol yn Llys Ynadon Gwynedd:
- dwyn (Siopladrad) ar 6 Ebrill 2017 yn groes i adran 1 Deddf Dwyn 1968, y cafodd ddirwy o £80 ar ei gyfer
- Ar 10 Chwefror 2020, wedi cael ei heuogfarnu o’r drosedd ganlynol yn Llys Ynadon Gogledd Canol Cymru:
- gyrru cerbyd modur gyda gormod o alcohol ar 24 Ionawr 2020 yn groes i adran 5(1)(a) Deddf Traffig Ffyrdd 1988. O ganlyniad i hyn, cafodd ddirwy o £150 ac fe’i datgymhwyswyd rhag gyrru am gyfnod gorfodol o 12 mis
- Ar neu oddeutu 20 Mai 2024, wedi gwneud cais i Gyngor y Gweithlu Addysg i gofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol ac wedi nodi yn yr adran datganiadau nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau, er nad oedd hyn yn gywir
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor fod ymddygiad Miss Warhurst ym mharagraff 5 uchod yn anonest ac yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Warhurst fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod o 2 flynedd (o 22 Gorffennaf 2025 tan 22 Gorffennaf 2027). Fel y cyfryw, bydd Miss Warhurst yn gallu gweithio fel unigolyn cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru ar hyd cyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Warhurst hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.