Wedi tanysgrifio i Meddwl Mawr?

Hwn yw'n clwb llyfrau a chyfnodolion i helpu ein cofrestreion i wneud y mwyaf o’u mynediad am ddim i lyfrgell ymchwil addysg fwyaf y byd, EBSCO.

Dysgwch fwy neu tanysgrifiwch i’n rhestr bostio.

Gwrandawiadau a chanlyniadau

Mae gennym gyfrifoldeb statudol i ymchwilio i unrhyw ymholiadau o ran safonau cofrestrai CGA, trwy ein proses priodoldeb i ymarfer. Mwy o wybodaeth, gan gynnwys gwrandawiadau i ddod, a chanlyniadau gwarndawiadau.

Blog newydd

Ry'n ni wedi ysgrifennu blog newydd yn manylu ar pwy ydym ni, a beth ry'n ni'n gwneud.

Darllenwch y blog nawr.

Newyddion

CGA yn cyhoeddi canllaw newydd i gefnogi lles dysgwyr

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi canllaw arfer da newydd gyda'r bwriad o helpu cefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc....

Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn derbyn gwobr aur

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi cael Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) aur. Cyllidir y Marc Ansawdd gan Lywodraeth Cymru, ac fe'i...

Cod Ymddygiad wedi ei ddiweddaru ar gyfer gweithlu addysg Cymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi ei ddiweddaru heddiw (1 Medi 2025), gan osod y safonau,...

CGA yn llongyfarch athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi estyn eu llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn eu Statws Athro Cymwysedig (SAC) yng Nghymru heddiw (1 Awst...

Ystadegau diweddaraf CGA yn rhoi darlun cynhwysfawr o weithlu addysg Cymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2025, ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr y rheoleiddir...

CGA yn rhannu gwybodaeth allweddol am recriwtio a chadw athrawon

Darparodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i recriwtio a...

CGA yn dathlu blwyddyn arall o gynnydd yn ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Heddiw (15 Gorffennaf 2025), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei gyfres o adroddiadau blynyddol, gan gynnwys ei Adroddiad Blynyddol...

Dathlu derbynwyr newydd y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid a derbynwyr sy’n cael eu hailachredu

Mae tri sefydliad arall ar draws Cymru wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol am ansawdd eu darpariaeth, gan ennill y Marc Ansawdd clodwiw ar gyfer...

Enwi Prif Weithredwr Dros Dro CGA

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi bod Lisa Winstone wedi cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Dros Dro arno. Bydd Lisa yn ymgymryd â’r...

Dathlu rôl hanfodol gwaith ieuenctid yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cefnogi effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru unwaith eto, drwy gymryd rhan yn Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni....

CGA yn amlygu gwelliannau ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd y Byd

I nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd y Byd (15 Mai), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn amlygu'r ffordd y mae'n gweithio i wneud eu...

CGA ar daith i brif ddigwyddiadau Cymru

Yr haf hwn, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn mynychu cyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol blaenllaw ar hyd a lled Cymru i siarad â’i...

Hayden Llewellyn yn cyhoeddi ei ymddeoliad fel Prif Weithredwr CGA

Mae Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), Hayden Llewellyn, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad ar ôl chwarter canrif o wasanaeth. Ymunodd Hayden...

CGA yn amlinellu ei weledigaeth at y dyfodol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol 2025-28 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 wedi ei adnewyddu, gan osod...

Dathlu llwyddiant wrth gyflwyno gwobr genedlaethol i wasanaethau ieuenctid Caerdydd a Merthyr

Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd a Merthyr Tudful yw’r sefydliadau diweddaraf i gael eu cydnabod yn ffurfiol am ansawdd eu darpariaeth, gan dderbyn y...

Mae dangosfwrdd eich Pasbort Dysgu Proffesiynol yn cael ei ddiweddaru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi diweddariad newydd i ddangosfwrdd y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). O 26 Chwefror 2025, bydd...

Cyfle i ddweud eich dweud am y diwygiadau arfaethedig i’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio ymgynghoriad ar ddrafft diweddaredig o’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae’r Cod yn ddogfen...

Mae CGA yn dathlu menywod a merched mewn STEM trwy bennod podlediad arbennig

I nodi 10 fed Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, mae CGA wedi cyhoeddi pennod arbennig o’i bodlediad, yn archwilio’r...

CGA yn croesawu cynlluniau i gryfhau gwaith ieuenctid yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru sy’n gofyn am safbwyntiau ar fframwaith statudol arfaethedig ar...

Grymuso’r genhedlaeth nesaf trwy addysg amgylcheddol yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi pennod ddiweddaraf ei bodlediad, Sgwrsio gyda CGA, sy’n archwilio rôl hollbwysig addysg...

Rhannu eich barn ar Gynllun Strategol CGA

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio ymgynghoriad heddiw (31 Ionawr 2025), yn ceisio barn ar eu Cynllun Strategol 2025-28. Mae'r cynllun...

CGA yn lansio ei fideos corfforaethol cyntaf yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Am y tro cyntaf, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi dau o’i fideos corfforaethol allweddol yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae’r...

Dyfodol presenoldeb CGA ar X

Roeddem am roi gwybod i'n cynulleidfaoedd ein bod wedi gwneud penderfyniad i ddod â'n presenoldeb ar X (Twitter yn flaenorol), i ben yn syth. Mae...

Cydnabod rhagoriaeth dau sefydliad ieuenctid

Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint a Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg yw'r sefydliadau diweddaraf i gael cydnabyddiaeth ffurfiol am ansawdd eu...

CGA yn cefnogi ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymuno â sefydliadau eraill ledled Cymru i gymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg. Mae'r ymgyrch, wedi’i...

CGA yn myfyrio ar arfer da mewn canllaw newydd sbon i gofrestreion

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi’r diweddaraf yn ei gyfres o ganllawiau arfer da, gan ganolbwyntio’r tro hwn ar arfer myfyriol....

CGA yn cyhoeddi prif siaradwr Siarad yn Broffesiynol 2025

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wrth (CGA) eu bodd i gyhoeddi'r Athro Rose Luckin fel prif siaradwr Siarad yn Broffesiynol 2025 'Cofleidio deallusrwydd...

Gwasanaethau CGA ddim ar gael - 4 Tachwedd 2024

Ni fydd gwasanaethau ar-lein Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar gael rhwng 17:30 a 21:00 ddydd Llun 4 Tachwedd 2024, oherwydd gwaith cynnal a chadw....

CGA yn rhoi barn ar y Bil iaith Gymraeg drafft

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (y Pwyllgor) ar Fil Iaith Gymraeg...

Gwasanaethau CGA ddim ar gael - 25 Hydref 2024

Ni fydd FyCGA ar gael rhwng 17:00 ddydd Gwener 25 Hydref 2024 a 12:00 ddydd Sadwrn 26 Hydref oherwydd gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd. Bydd hyn...

Mae'r canllaw arfer da yma wedi ei gefnogi gan Barnardo's Cymru, Brook, ac NSPCC Cymru.

Cyflwyniad

Mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg wedi bod yn destun trafodaethau, ymchwil ac adroddiadau ers degawdau. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd twf sylweddol yn y wybodaeth a’r ymwybyddiaeth ynghylch y mater. Yng Nghymru, amlygwyd y mater mewn dau adroddiad gan Estyn, yn mynd i’r afael â phroblem aflonyddu rhwng cyfoedion mewn ysgolion, ac ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn addysg bellach.

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion sy’n disgrifio’i fod ‘yn frawychus o gyffredin’ o fewn ysgolion uwchradd, yn ‘beth cyffredin’ mewn colegau a’i fod yn digwydd mewn ysgolion cynradd, hefyd. Mae’r adroddiad yn nodi bod merched, dysgwyr LHDTC+ a dysgwyr sydd â nodweddion annormadol eraill mewn perygl arbennig.

Roedd normaleiddio a pheidio ag adrodd yn ddigonol am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion hefyd yn ganfyddiadau allweddol mewn ymchwil a gyhoeddwyd gan yr NSPCC, a ddarganfu:

“Mae pobl ifanc yn disgrifio bod trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol, ar-lein ac all-lein, yn gyffredin, a bod pob math o drais ar sail rhywedd a thrais rhywiol, o sarhad ar sail rhywedd i ymosodiadau rhywiol, ddim yn cael eu hadrodd yn ddigonol neu ddim yn cael eu hadrodd o gwbl.

Mae pobl ifanc yn nodi sut mae’r profiadau hyn wedi cael eu ‘normaleiddio’, ond maent yn disgrifio hefyd deimlo dan orfodaeth, dan bwysau, trawma, cywilydd a thrallod amdanynt.”

Yn anffodus, mae cyffredinrwydd aflonyddu rhywiol yn ein mannau dysgu yn adlewyrchu materion cymdeithasol ehangach, gyda phroblemau aflonyddu a cham-drin hefyd yn cael eu hamlygu fwyfwy mewn mannau gwaith a rhyngweithio cymdeithasol eraill. Mae gan gofrestreion CGA rôl unigryw a hollbwysig i’w chwarae o ran nodi a mynd i’r afael ag aflonyddu a cham-drin rhwng cyfoedion, trwy greu amgylcheddau diogel, cynhwysol, a thrin plant a phobl ifanc gyda pharch ac empathi.

Dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru deimlo’n hyderus eu bod yn ddiogel rhag aflonyddu a cham-drin rhywiol pan fyddant yn mynd i’r ysgol, i’r coleg neu i glwb ieuenctid. Mae Erthygl 19 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn sail i’w hawl i hyn, gan ddatgan bod gan blant yr hawl i fod yn ddiogel rhag pob math o drais, anaf neu gamdriniaeth gorfforol neu feddyliol...gan gynnwys cam-drin rhywiol.

Bwriad y canllaw arfer da hwn, sydd wedi’i gymeradwyo gan Barnardo’s, Brook a’r NSPCC, yw eich helpu fel un o gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i:

  • gyflawni’r cyfrifoldebau yng Nghod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
  • nodi aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ac ymddygiad rhywiol niweidiol arall
  • atal, nodi, ymateb i a rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion pan fydd yn digwydd

Mae’r ddogfen yn darparu dolenni i adnoddau a sefydliadau defnyddiol a all ddarparu cyngor manylach ar ddelio gydag amgylchiadau penodol y gallech ddod ar eu traws.

Nid oes bwriad i’r canllaw hwn ddisodli arweiniad statudol, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ar y materion sy’n cael eu cwmpasu. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn gyfarwydd â pholisïau eich cyflogwr ar aflonyddu rhwng cyfoedion, ynghyd â pholisïau perthnasol eraill, fel y rhai sy’n ymwneud ag ymddygiad rhywiol niweidiol, cam-fanteisio ar blant yn rhywiol, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a bwlio.

Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Mae holl gofrestreion CGA yn destun y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod), sy’n amlinellu egwyddorion allweddol ymddygiad ac ymarfer da i gofrestreion. Felly, dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’r Cod.

Mae’r egwyddorion a’r disgwyliadau o fewn y Cod sy’n berthnasol i atal ac ymateb i ddigwyddiadau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion fel a ganlyn:

Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol

Mae cofrestreion:

1.1 yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo

1.2 yn cynnal perthnasoedd â dysgwyr a phobl ifanc mewn modd proffesiynol, drwy:

  • gyfrannu at greu amgylchedd dysgu teg a chynhwysol drwy fynd i’r afael â gwahaniaethu, ystrydebu, a bwlio

1.3 yn ymgysylltu â dysgwyr a phobl ifanc i annog hyder, grymuso, datblygiad addysgol a datblygiad personol

1.4 yn meddu ar ddyletswydd gofal dros ddiogelwch dysgwyr a phobl ifanc a’u llesiant corfforol, cymdeithasol, moesol, ac addysgol:

  • gweithredu ar unrhyw beth a allai beryglu diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc
  • adrodd...unrhyw fater diogelu, neu unrhyw fater arall a allai o bosibl niweidio diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc

1.6 yn dangos parch at gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymrwymiad iddynt, sy’n cynnwys herio a/neu roi gwybod am ymddygiad sy’n gwahaniaethu ac unrhyw ymddygiad annerbyniol arall

Nodi aflonyddu rhwng cyfoedion

Beth yw aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion?

O fewn canllaw Llywodraeth Cymru i leoliadau addysg ar gam-drin rhywiol, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol gan gyfoedion, diffinnir aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion fel a ganlyn:

Ymddygiad digroeso parhaus o natur rywiol gan blentyn tuag at blentyn arall. Gall hyn ddigwydd ar-lein a phan nad yw pobl ar-lein. Mae aflonyddu rhywiol yn debygol o: amharu ar urddas plentyn, a/neu wneud iddo deimlo dan fygythiad, wedi’i iselhau neu gywilyddio, a/neu greu amgylchedd cas, ymosodol a rhywiol

(Llywodraeth Cymru 2020).

O fewn eu hadroddiad ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru, mae Estyn yn cynnig nifer o enghreifftiau penodol o ymddygiad o’r fath:

  • gwneud sylwadau neu jôcs rhywiol naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein
  • codi sgertiau neu dynnu llun o dan ddillad rhywun heb yn wybod iddi/iddo
  • gwneud sylwadau cas am gorff, rhywedd, rhywioldeb neu olwg rhywun i achosi cywilydd, gofid neu fraw iddo/iddi
  • camdriniaeth yn seiliedig ar ddelwedd, fel rhannu llun neu fideo o rywun yn noeth / hanner noeth heb gydsyniad y sawl sydd yn y llun
  • anfon ffotograffau / fideos rhywiol, cignoeth neu bornograffig digroeso at rywun1

Cam-drin ac aflonyddu rhywiol ar-lein

Fwyfwy, mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn digwydd y tu hwnt i leoliadau addysg ac yn digwydd ar-lein, trwy blatfformau digidol. Weithiau, mae hyn yn digwydd fel rhan o batrwm ehangach o aflonyddu rhywiol sy’n cynnwys cam-drin ‘wyneb yn wyneb’ o fewn lleoliadau addysg. Mae hyn yn creu trafferth ychwanegol o ran gweld a nodi ymddygiad rhywiol niweidiol.

Gall enghreifftiau a ddyfynnir gan Lywodraeth Cymru (2020) o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion sy’n digwydd ar-lein gynnwys:

  • rhannu delweddau a fideos rhywiol heb gydsyniad
  • bwlio rhywiol ar-lein
  • sylwadau a negeseuon rhywiol digroeso (gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol), dwyn pwysau a bygwth

Sut i nodi ymddygiad rhywiol amhriodol

Mae’n hanfodol sicrhau nad yw’r cyfrifoldeb am herio cam-drin ac aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn disgyn ar y dioddefwyr. Felly, mae’n bwysig datblygu dulliau effeithiol o nodi a mynd i’r afael ag ymddygiad rhywiol niweidiol.

Mae’r diagram canlynol, sydd wedi’i seilio ar waith yr Athro Simon Hackett (2010), yn dangos model continwwm sy’n amlinellu’r ystod o ymddygiadau rhywiol a gyflwynir gan blant a phobl ifanc. Trwy gategoreiddio ymddygiadau ar raddfa yn amrywio o ‘normal’ i ‘dreisgar’, dylai hyn eich helpu i nodi pa ymddygiadau a allai fod yn niweidiol i’r plentyn neu’r person ifanc sy’n cyflawni’r ymddygiad, ac eraill, a gwahaniaethu rhwng y rheiny ac ymddygiadau sy’n ddatblygiad rhywiol iach.

Continwwm ymddygiadau rhywiol a gyflwynir gan blant a phobl ifanc

Normal:

  • disgwyliedig yn ddatblygiadol
  • derbyniol yn gymdeithasol
  • cydsyniol, cilyddol, ar y naill ochr
  • gwneud penderfyniadau ar y cyd

Amhriodol:

  • enghreifftiau unigol o ymddygiad rhywiol amhriodol
  • ymddygiad derbyniol yn gymdeithasol o fewn grŵp cyfoedion
  • gall y cyd-destun i’r ymddygiad fod yn amhriodol
  • cydsyniol ac o’r naill ochr, yn gyffredinol

Problematig:

  • ymddygiadau problematig a phryderus
  • anarferol yn ddatblygiadol ac annisgwyl yn gymdeithasol
  • dim elfennau amlwg o erledigaeth
  • gall materion cydsyniad fod yn aneglur
  • gall fod diffyg dwyochredd neu bŵer cyfartal
  • gall gynnwys lefelau o orfodaeth

Camdriniol:

  • erledigaeth yw’r bwriad neu’r canlyniad
  • mae’n cynnwys camddefnyddio grym
  • gorfodaeth a grym i sicrhau bod y dioddefwr yn cydymffurfio
  • ymwthiol
  • diffyg cydsyniad gwybodus, neu nid oedd y dioddefwr yn gallu’i roi yn rhydd
  • gall gynnwys elfennau o drais mynegol

Treisgar:

  • cam-drin rhywiol treisgar yn gorfforol
  • trais cyfrannog sy’n cyffroi’r cyflawnwr yn ffisiolegol a/neu yn rhywiol
  • sadistiaeth

 (addaswyd o Hackett, 2010)

Ni fydd angen atgyfeirio ymddygiadau sy’n dod o dan y categorïau amhriodol a phroblematig i wasanaethau cymdeithasol o reidrwydd, gyda strategaethau ymyrryd cynnar o fewn lleoliad addysg yn aml yn fuddiol i’r plentyn neu’r person ifanc ar yr adeg hon (Llywodraeth Cymru 2020)2. Fodd bynnag, bydd angen i’r person diogelu dynodedig atgyfeirio ymddygiad treisgar a chamdriniol i’r gwasanaethau cymdeithasol (Llywodraeth Cymru, 2020).

Adnabod ymddygiadau priodol i oedran

Mae elusen Brook, sy’n gweithredu amrywiaeth o wasanaethau iechyd a lles rhywiol ar draws y DU, yn cynnig hyfforddiant ac ‘Adnodd Goleuadau Traffig Ymddygiadau Rhywiol’ cysylltiedig, sy’n darparu rhagor o wybodaeth am ddatblygiad rhywiol iach. Gall hyn eich helpu i ddeall cyfreithiau allweddol yn gysylltiedig ag ymddygiad rhywiol, nodi ymddygiadau priodol i oedran mwy penodol, ac ennill gwybodaeth am sut i gael sgyrsiau trylwyr ac ystyrlon am ymddygiadau rhywiol niweidiol sy’n peri pryder.

Atal ac ymateb i ddigwyddiadau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion

Byddwch yn ymwybodol o bolisïau, gweithdrefnau a deddfwriaeth

Polisïau statudol

Fel un o gofrestreion CGA, mae’n hanfodol sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r dyletswyddau statudol perthnasol yn gysylltiedig â lles plant a phobl ifanc o fewn eich lleoliad.

Mae Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar ‘bartneriaid perthnasol’ i roi gwybod i’r awdurdod lleol os oes ganddynt achos rhesymol i amau bod plentyn mewn perygl, sef pan fydd plentyn mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, neu’n cael profiad o’r rhain, ac mae gan y plentyn anghenion gofal a chymorth.

Hefyd, mae angen i ysgolion ddilyn cyfreithiau gwrthwahaniaethu a rhaid i staff weithredu er mwyn atal gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth o fewn yr ysgol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

Dylech fod yn ymwybodol o’ch rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n datgan bod yn rhaid i chi roi ystyriaeth briodol i’r angen am ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, ac ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd gan y Ddeddf.

Mae’n ofynnol bod pob ysgol a gynhelir yng Nghymru yn cynnwys darpariaeth ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh). Mae Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Llywodraeth Cymru yn amlinellu arweiniad ar hyn, gan amlinellu’r themâu a’r materion y mae angen eu cynnwys mewn ACRh (i blant 3-16 oed).

Polisïau o fewn eich lleoliad

Dylech hefyd sicrhau eich bod yn gyfarwydd ag unrhyw bolisïau perthnasol yn eich lleoliad a chadw atynt. Gall y rhain gynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:

  • polisïau gwrthfwlio
  • polisïau ymddygiad
  • polisïau amddiffyn/diogelu plant
  • polisïau diogelwch ar-lein
  • polisïau aflonyddu rhywiol
  • polisïau ACRh

Helpwch i greu diwylliant diogel a chefnogol o fewn eich sefydliad

Mae’n bwysig sicrhau bod plant a phobl ifanc yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu ym mhob lleoliad addysg. Gallwch gefnogi hwn trwy weithio i greu amgylchedd lle y mae ymddygiad rhywiol amhriodol, problematig, camdriniol neu dreisgar yn cael ei gydnabod a’i drin yn briodol.

Dylech osod disgwyliadau clir o’r dechrau, a bod yn glir na fyddwch yn goddef iaith nac ymddygiad sarhaus. Mae hyn yn cynnwys ‘tynnu coes’ a ‘jôcs’ a allai ddod o dan y categori amhriodol yng nghontinwwm Hackett.

Hefyd, mae’n bwysig sicrhau plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu niweidio’n rhywiol y bydd pobl yn gwrando arnynt ac yn eu cymryd o ddifri, ac y byddwch yn gweithredu ar eu pryderon os byddant yn agor eu calon. Felly, dylech geisio bod yn agos-atoch tuag at blant a phobl ifanc a’u hannog i siarad â chi, neu gydweithiwr neu oedolyn dibynadwy arall, os oes ganddynt bryderon.

Fel un o gofrestreion CGA, dylech fod yn fodel cadarnhaol o ymddygiad i blant a phobl ifanc a cheisio ymddwyn yn barchus ac yn briodol. Dylech siarad â’ch cydweithwyr am faterion y maen nhw’n dod ar eu traws a sut maen nhw wedi mynd i’r afael â nhw. Lle y bo’n briodol, dylech annog cydweithwyr i sicrhau eu bod yn delio ag ymddygiad rhywiol amhriodol neu broblematig, gan gynnwys cam-drin rhywiol rhwng cyfoedion, yn effeithiol ac yn briodol. Efallai byddwch yn dymuno ystyried gosod posteri er mwyn helpu plant a phobl ifanc i nodi gyda phwy y gallant siarad ac i ble y dylent droi os oes ganddynt gwyn, os ydynt yn teimlo eu bod wedi dioddef aflonyddu neu gam-drin rhywiol, neu os gwelon nhw ddigwyddiad. Gallai posteri o’r fath gael eu creu ar y cyd â phlant a phobl ifanc.

Mae addysgu ACRh yn ofyniad gorfodol yn y Cwricwlwm i Gymru i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed, ac mae’n chwarae rhan hanfodol wrth greu diwylliant diogel a chefnogol i blant a phobl ifanc. Mae Estyn yn cynghori y dylai darpariaeth ACRh gynnig cyfleoedd dysgu digonol, cronnus a buddiol i blant a phobl ifanc dros yr ystod oedran cyfan am berthnasoedd iach, rhyw a rhywioldeb. Mae llinyn ‘Grymuso, Diogelwch a Pharch’ o fewn y cod ACRh yn canolbwyntio’n benodol ar sut “Mae angen i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o natur ac effaith gymdeithasol, emosiynol, corfforol a chyfreithiol ymddygiadau niweidiol, gan gynnwys pob bwlio a bwlio pobl LHDTC+, trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd mewn ystod o gyd-destunau, gan gynnwys ar-lein”. Mae’r cod hefyd yn datgan y dylai ACRh gynorthwyo dysgwyr (o 11 oed) ddeall “sut i eirioli dros amgylcheddau diogel a hawliau a dealltwriaeth pawb ynghylch ystod o faterion addysg cydberthynas a rhywioldeb” ac mae’n mynd i’r afael â “p[h]wysigrwydd lleisio barn yn ddiogel yn erbyn trais ar sail rhyw a rhywedd a thrais rhywiol”.

Fel rhan o ‘ddull sefydliad cyfan’, mae’n bwysig hefyd ymgysylltu â rhieni a gwarcheidwaid, gan gyfathrebu â nhw yn gynnar pan fydd pryderon am les plant a phobl ifanc, a pharhau i’w cynnwys a rhoi gwybodaeth iddynt wrth fynd i’r afael â materion.

Ymateb yn briodol i ddigwyddiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion

Gall plant ddatgelu aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn nifer o ffyrdd gwahanol, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Hefyd, gall fod arwyddion trwy eu hymddygiad, neu gyfathrebu dieiriau eraill (fel ysgrifennu llythyron neu dynnu lluniau) bod digwyddiad wedi bod.

Os bydd plentyn neu berson ifanc yn gwneud datgeliad i chi, rhaid i chi weithredu yn unol â pholisïau eich sefydliad.

Mae’r NSPCC yn cynghori y gall fod yn ddefnyddiol cofio’r dulliau canlynol os bydd plentyn neu berson ifanc yn datgelu digwyddiad i chi:

  • cydnabod bod y person wedi dangos dewrder wrth siarad â chi. Rhowch sicrwydd iddynt eu bod wedi gwneud y peth cywir trwy roi gwybod am y digwyddiad ac y byddant yn cael eu cymryd o ddifri a’u cadw’n ddiogel.
  • gwrandewch yn ofalus a rhowch eich sylw llawn iddynt. Byddwn yn ddigynnwrf, yn gefnogol a pheidiwch â barnu.
  • dangoswch empathi a dealltwriaeth, ond peidiwch â cheisio ymchwilio na gofyn cwestiynau arweiniol.
  • disgrifiwch y camau byddwch yn eu cymryd yn glir. Peidiwch â gwneud addewidion na fyddwch yn gallu’u cadw am gynnal cyfrinachedd. Byddwch yn glir am bwy y mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt (er enghraifft, y person diogelu dynodedig).

Pan fydd datgeliad wedi’i wneud, rhaid i chi roi gwybod i’ch person diogelu dynodedig amdano ar unwaith, yn unol â pholisïau eich sefydliad.

Os byddwch chi’n dyst yn bersonol i aflonyddu a/neu gam-drin rhywiol rhwng cyfoedion, mae’n bwysig eich bod chi’n gweithredu ar unwaith er mwyn atal yr ymddygiad rhag gwaethygu ac i gadw’r unigolion cysylltiedig yn ddiogel. Dilynwch bolisïau perthnasol eich sefydliad a sicrhewch eich bod yn hysbysu eich person diogelu dynodedig cyn gynted â phosibl.

Adrodd a chofnodi digwyddiadau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r prosesau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau a'u deall, a’u dilyn yn ofalus.

Dylech gadw cofnodion manwl am unrhyw ddigwyddiadau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion rydych chi’n dyst iddynt, neu sy’n cael eu datgelu i chi. O fewn eich cofnod, dylech anelu at gynnwys:

  • dyddiad ac amser y digwyddiad
  • beth oedd yn digwydd cyn y digwyddiad
  • manylion penodol am y digwyddiad
  • p’un a oedd yr ymddygiad yn ymddangos fel petai’n ddigymell neu wedi’i fwriadu ymlaen llaw
  • sut y gwnaeth y plentyn neu’r bobl ifanc a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad ymateb

O fewn eich cofnod, mae’n bwysig datgan dim ond beth weloch chi, ac osgoi barnu ar sail gwerthoedd, neu dermau fel ‘ymddygiad amhriodol’.

Dylech roi gwybod i’ch person diogelu dynodedig am yr adroddiad hwn a’i rannu â nhw, yn unol â pholisïau eich sefydliad.

Hefyd, dylai eich person diogelu dynodedig gofnodi sut mae eich sefydliad wedi ymateb i unrhyw ddigwyddiadau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws adnabod unrhyw batrymau mewn ymddygiad a allai fod yn destun pryder ac unrhyw gamau/newidiadau y gall fod eu hangen.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol

Polisïau Diogelu Llywodraeth Cymru

Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2021) Diogelu plant rhag camfanteisio rhywiol

Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2021) Diogelu plant lle mae pryderon ynghylch ymddygiad rhywiol niweidiol

Llywodraeth Cymru (2016) Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: Canllaw Ymarferol i Lywodraethwyr Ysgolion

Llywodraeth Cymru (2019) Hawliau, parch, cydraddoldeb: canllawiau statudol ar gyfer ysgolion a gynhelir

Llywodraeth y DU (2020) Sharing nudes and semi-nudes: advice for education settings working with children and young people

Ffynonellau cyngor ac adnoddau defnyddiol eraill

Barnardo’s
Mae Barnardo’s yn darparu amrywiaeth o gymorth i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, gan gynnwys gwasanaethau penodol ynghylch cam-drin a cham-fanteisio ar blant.

Brook Cymru
Mae Brook yn elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl ifanc â’u hiechyd a’u lles rhywiol. Hefyd, maen nhw’n darparu hyfforddiant ac adnoddau dysgu i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol i ddarparu addysg rhyw a chydberthynas, a chymorth lles i bobl ifanc.

Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru
Mae RASASC Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth, cymorth arbenigol a therapi i unrhyw un tair oed a throsodd sydd wedi cael profiad o unrhyw fath o drais neu gam-drin rhywiol.

Dosbarth Meistr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)
Yn 2023, cynhaliodd CGA Ddosbarth Meistr ar ddeall a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysg. Mae recordiad o'r digwyddiad ar gael ar ein gwefan.

National Education Union (NEU)
Mae’r NEU wedi cynhyrchu adroddiadau ac adnoddau ar rywiaeth ac aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, ac mae ganddynt becyn ymgyrch sy’n anelu at helpu aelodau’r NEU i gymryd y camau sydd eu hangen arnynt i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Hefyd, fe wnaethant gefnogi adnodd AGENDA – pecyn cymorth i ymarferwyr sy’n manteisio ar ddulliau cadarnhaol, creadigol a chynhwysol i fynd i’r afael â pherthnasoedd iach, gan gynnwys cydraddoldeb/anghydraddoldeb rhywedd, bwlio ac aflonyddu rhywiol.

NSPCC
Mae’r NSPCC wedi cynhyrchu amrywiaeth o adroddiadau ac adnoddau ymchwil sy’n cynorthwyo gweithwyr proffesiynol i fynd i’r afael â cham-drin ac aflonyddu rhywiol. Darllennwch sut mae pobl ifanc yn dysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, yn eu hadran adnoddau.

Hefyd, mae ganddynt linell gymorth addysg i’r rhai sy’n dymuno siarad â rhywun am unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Stonewall
Mae Stonewall yn darparu cymorth i ysgolion a cholegau er mwyn herio bwlio a dathlu amrywiaeth, ac mae’n cynnig amrywiaeth o hyfforddiant ac adnoddau ar-lein.

 1 Er mai 16 yw’r oedran cydsynio yn y DU, dylid nodi bod creu, dosbarthu, meddu ar neu ddangos unrhyw ddelweddau anweddus o unrhyw un dan 18 oed yn drosedd, hyd yn oed os cafodd y cynnwys ei greu gyda chydsyniad y person ifanc.

2 Dylid cydbwyso penderfyniadau ynghylch atgyfeirio i wasanaethau statudol ag unrhyw anghenion neu bryderon eraill hefyd, a’r cyd-destunau ehangach i’r plant neu’r bobl ifanc.