CGA / EWC

About us banner
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig i Gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig i Gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)

1. Cyflwyniad

Mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (‘y Cod’) yn ddogfen allweddol. Mae’n datgan yn glir i gofrestreion CGA y prif safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol da y mae disgwyl i bob un ohonynt eu cynnal er mwyn parhau i gofrestru. Hefyd, mae’n galluogi dysgwyr a phobl ifanc, a phawb sy’n ymwneud â’u haddysg a’u hyfforddiant yng Nghymru, yn enwedig rhieni/gwarcheidwaid, i wybod beth y dylent ei ddisgwyl gan gofrestreion.

Mae gofyniad cyfreithiol ar CGA o dan y Ddeddf i gyhoeddi cod sy’n amlinellu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol y mae disgwyl i bersonau cofrestredig eu dangos. Hefyd, mae’r Ddeddf yn gofyn bod CGA yn adolygu ac yn diwygio’r Cod o fewn tair blynedd o’i gyhoeddi, neu ba bryd bynnag y caiff categori cofrestru newydd ei ychwanegu. Adolygwyd fersiwn gyfredol y Cod ddiwethaf ym mis Mai 2024 yn sgil cyflwyno categorïau newydd i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg.

Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (y Rheoliadau) yn gofyn bod y Cod yn cynnwys y materion a ganlyn fel darpariaeth sylfaenol:

  • seilio’r berthynas rhwng dysgwyr a phersonau cofrestredig ar ymddiriedaeth a pharch o’r ddwy ochr
  • bod yn ystyriol o ddiogelwch a lles dysgwyr
  • gweithio mewn modd cydweithredol gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
  • datblygu a chynnal perthynas dda â rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr
  • gweithredu â gonestrwydd ac unplygrwydd
  • bod yn sensitif i’r angen am gyfrinachedd, pan fo’n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb dros gynnal ansawdd ymarfer proffesiynol
  • cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg

Hefyd, mae’r Rheoliadau’n gofyn bod pwyllgor ymchwilio neu briodoldeb i ymarfer CGA yn cyfrif am unrhyw fethiant gan gofrestrai i gydymffurfio â’r Cod mewn unrhyw rai o’r camau disgyblu yn erbyn y person hwnnw.

Wrth ddrafftio’r Cod diwygiedig, mae CGA wedi:

    1. cyfrif am 13 grŵp y gweithlu y mae’n ofynnol bellach i CGA eu cofrestru a’u rheoleiddio i sicrhau bod y Cod yn berthnasol i bawb, yn adlewyrchu pawb ac yn hygyrch i bawb
    2. adolygu codau rheoleiddwyr eraill, ar draws y byd ac ar draws amrywiaeth o broffesiynau
    3. ystyried themâu sy’n dod i’r amlwg o waith achos priodoldeb i ymarfer i lywio meysydd y Cod y mae angen eu cryfhau, o bosibl

Parhaodd y cyfnod ymgynghori ar y Cod diwygiedig drafft rhwng 17 Chwefror a 28 Mawrth 2025.

2. Y broses ymgynghori

Ymgynghori â’r cyhoedd

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 17 Chwefror 2025 ac roedd dolen i ddogfennau’r ymgynghoriad ar gael o wefan CGA. Gallai ymatebion gael eu cyflwyno’n uniongyrchol drwy’r wefan neu drwy’r e-bost. Anfonwyd e-bost at bob rhanddeiliad i gyhoeddi lansio’r ymgynghoriad a darparwyd dolen iddynt i dudalen yr ymgynghoriad.

Marchnata

Cynhaliodd y CGA nifer o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad ar y Cod, a oedd yn cynnwys cyfathrebu â chofrestreion, cyflogwyr, undebau a rhanddeiliaid eraill gan ddefnyddio’r e-bost, y cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddiadau partner, gwefan CGA, chylchlythyr CGA i gofrestreion, gwasg y sector, a sesiynau galw heibio ar-lein.

3. Ymatebion i’r ymgynghoriad – sefydliadau ac unigolion

Cafwyd 19 ymateb yn gyfan gwbl. Dewisodd un ymatebydd ddarparu ymatebion wedi’u personoli yn hytrach na ddefnyddio’r holiadur safonol.

O’r 19 cyflwyniad uniongyrchol, cafwyd ymatebion gan y canlynol:

  • 9 cofrestrai
  • Coleg Penybont
  • Estyn
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Cyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban (GTCS)
  • National Education Union Cymru (NEU)
  • NASUWT Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • UCAC
  • UNISON Cymru

Crynodeb o’r Ymatebion

Cwestiwn 1: 1. A yw diben, cwmpas a statws y Cod diwygiedig yn glir ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru (fel y’u hamlinellir yn y ddogfen ymgynghori)?

 Ydyn 16 88.8% 
 Nac ydyn 0 0%
 Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1 5.6%
 Heb gadarnhau / marcio 1 5.6%
 Cyfanswm 18 100%

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (88.8%) o’r farn bod diben, cwmpas a statws y Cod diwygiedig yn glir ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Cwestiwn 2(a): A yw’r egwyddorion allweddol (cyfrifoldeb personol, gwybodaeth, unplygrwydd a chydweithio) yn briodol, yn berthnasol i bob grŵp o gofrestreion ac yn eu hadlewyrchu?

 Ydyn 15 83.2% 
 Nac ydyn 1 5.6%
 Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 1 5.6%
 Heb gadarnhau / marcio 1 5.6%
 Cyfanswm 18 100%

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (83.2%) o’r farn bod yr egwyddorion allweddol yn briodol i bob grŵp o gofrestreion, yn berthnasol iddynt ac yn eu hadlewyrchu.

Cwestiwn 2(b): A ydych chi’n cytuno bod cyflwyno egwyddor newydd ar arweinyddiaeth yn briodol ac yn berthnasol?

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (61.2%) o’r farn bod yr egwyddor allweddol yn briodol ac yn berthnasol. Gwnaed nifer o sylwadau ac awgrymiadau ynghylch cyflwyno’r egwyddor allweddol hon. Er enghraifft, rhoddodd rhai sylwadau ar bwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol i wella gwasanaethau ac i les ymarferwyr, a nodont fod y safonau hyn, yn gyfiawn, yn fwy manwl a phenodol i weithwyr proffesiynol y mae eu cwmpas a’u cyfrifoldeb (ac, felly, eu heffaith ar ddarparwyr a systemau addysgol) yn ehangach.

Mae sylwadau eraill yn sôn nad dim ond rôl y rhai sydd â chyfrifoldebau arwain a rheoli ffurfiol yw hyrwyddo ac annog diwylliant cadarnhaol yn y gweithle, ac na ddylid peidio ag annog cofrestreion rhag dyheu am ymgorffori’r Cod, arwain trwy esiampl, a hyrwyddo ac annog diwylliant sefydliadol cadarnhaol o barch, unplygrwydd, atebolrwydd, a phroffesiynoldeb.

Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid datgan yn glir at ba grwpiau penodol o arweinwyr a rheolwyr y mae’r egwyddor hon wedi’i hanelu, a’r rhai y tybir eu bod wedi’u heithrio, er enghraifft cynorthwywyr addysgu lefel uwch/rheolwyr iau.

Cwestiwn 3(a): A yw’r disgwyliadau o dan bob egwyddor allweddol (cyfrifoldeb personol, gwybodaeth, unplygrwydd a chydweithio) yn briodol, yn berthnasol i bob grŵp o gofrestreion ac yn eu hadlewyrchu?

 Ydyn 14 77.7% 
 Nac ydyn 1 5.6%
 Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 2 11.1%
 Heb gadarnhau / marcio 1 5.6%
 Cyfanswm 18 100%

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (77.7%) o’r farn bod y disgwyliadau o dan bob egwyddor allweddol yn briodol, yn berthnasol i bob grŵp o gofrestreion ac yn adlewyrchu pob grŵp. Gwnaed nifer o sylwadau ac awgrymiadau i wella’r disgwyliadau:

Roedd rhai ymatebwyr yn pryderu am y cyfeiriad at gyfrifoldeb ‘personol’ yn ogystal â phroffesiynol, sef bod potensial gan ‘personol’ i effeithio ar yr hawl i fywyd preifat.

Yn ogystal, gellir diwygio’r cyfeiriad at ‘dysgwyr a phobl ifanc’ i ‘dysgwyr a phobl ifanc y maent yn gyfrifol yn broffesiynol amdanynt’, neu eiriad tebyg, neu effaith y disgwyliadau yw estyn cyfrifoldebau cofrestreion y tu hwnt i’r hyn sy’n rhesymol – caiff cyfrifoldebau cyhoeddus ehangach eu cipio’n ddigonol mewn egwyddorion a disgrifiadau eraill.

Holodd ymatebwyr eraill p’un a ddylid mireinio ymhellach y disgwyliad nad yw cofrestreion yn cael eu hamharu gan alcohol neu sylweddau eraill, a holont p’un a oedd ymestyn y disgwyliadau eraill – fel y rhai sy’n gysylltiedig â chyllid ac arholiadau – yn angenrheidiol ai peidio.

Holodd rhai ymatebwyr p’un a oedd geiriau penodol fel ‘moesegol’, ‘cynwysoldeb’, ‘ymatebol’, ‘yn y gwaith’, ‘ffigur cyhoeddus’ yn glir, a/neu yn angenrheidiol, a/neu yn creu beichiau ychwanegol i gofrestreion.

Cwestiwn 3(b): A ydych chi’n cytuno bod y disgwyliadau ar gyfer arweinwyr a phobl â chyfrifoldebau rheoli yn briodol ac yn berthnasol?

 Ydyn 12 66.7% 
 Nac ydyn 0 0%
 Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 2 11.1%
 Heb gadarnhau / marcio 4 22.2%
 Cyfanswm 18 100%

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (66.7%) o’r farn bod disgwyliadau yn yr egwyddor allweddol hon yn briodol ac yn berthnasol. Gwnaed nifer o sylwadau ac awgrymiadau ynghylch y disgwyliadau o dan yr egwyddor allweddol hon.

Roedd rhai ymatebwyr o’r farn y dylai’r disgwyliadau ar arweinwyr a’r bobl â chyfrifoldebau rheoli gael eu hymestyn ymhellach i gynnwys cyfrifoldeb am iechyd, diogelwch a llesiant staff, neu gefnogi llesiant y gweithlu.

Gwnaeth ymatebwyr eraill sylwadau y dylai’r disgwyliadau sy’n cael eu nodi’n benodol o dan yr egwyddor newydd hon fod yn berthnasol i gofrestreion yn gyffredinol.

Cwestiwn 4: A yw’r Cod yn cynnig sicrwydd i ddysgwyr, rhieni, gwarcheidwaid a’r cyhoedd am ymddygiad ac ymarfer y gweithlu addysg?

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (66.7%) o’r farn bod y Cod yn cynnig sicrwydd i ddysgwyr, rhieni, gwarcheidwaid a’r cyhoedd am ymddygiad ac ymarfer y gweithlu addysg.

Cwestiwn 5: Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol drafft i gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol:
(a) ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg; ac
(b) ar beidio â thrin yn Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Caniataodd y cwestiwn ymateb ‘testun rhydd’ ac roedd y prif sylwadau’n gysylltiedig â chydnabod y dylai CGA barhau i ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

Cwestiwn 6: A oes gennych unrhyw sylwadau eraill?

Cafwyd amrywiaeth o sylwadau eraill gan ymatebwyr, er enghraifft yn gysylltiedig â gweithwyr cymorth mewn ysgolion, Canllawiau Arfer Da CGA, dyluniad a graffigwaith y Cod, ac awgrymiadau am sut i ehangu’r Cod ymhellach.

4. Y camau nesaf

Hoffai CGA ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwn. Bydd adborth yn cael ei adolygu wrth lunio’r diweddariad i’r Cod yn derfynol.

Yna, bydd fersiwn newydd y Cod yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi 2025.