Y broses ddewis
Ymgeisio
Mae’r swydd-ddisgrifiad a manyleb yr unigolyn yn amlinellu cyfrifoldebau’r rôl a’r sgiliau/profiad y mae eu hangen arnoch i wneud cais. Ochr yn ochr â’r pecyn ymgeiswyr hwn, mae gan ein gwefan gyfoeth o wybodaeth am ein sefydliad a’n gwaith, ond os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl, neu am CGA, gallwch gysylltu â’n tîm AD.
Rydym yn ymrwymo i ddileu unrhyw rwystrau y gallai unigolion eu hwynebu yn ein prosesau recriwtio. Os oes angen unrhyw ddogfennaeth arnoch yn gysylltiedig â recriwtio mewn fformat arall, gan gynnwys y ffurflen gais, cysylltwch â’n tîm AD a fydd yn hapus i’ch cynorthwyo.
Llunio rhestr fer
Pan fydd y ffenestr ymgeisio yn cau, bydd pob cais yn cael ei adolygu gan banel dewis. I sicrhau tegwch, bydd pob cais yn anhysbys, gan dynnu gwybodaeth bersonol fel eich enw, eich cyfeiriad, eich rhywedd a’ch ethnigrwydd. Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf hanfodol ym manyleb yr unigolyn, felly mae’n bwysig darparu enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni’r gofynion hyn.
Rydym yn gwybod bod cwblhau cais yn cymryd amser felly byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses. Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd ar ôl llunio rhestr fer er mwyn rhoi gwybod iddynt p’un a yw eu cais wedi symud ymlaen i’r cam nesaf. Nodwch, fodd bynnag, nad ydym yn rhoi adborth ar geisiadau unigol yn y cam rhestr fer.
Cyfweliad
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r e-bost ac yn gofyn i chi gadarnhau eich presenoldeb ar y dyddiad a’r amser a neilltuwyd. Yn dibynnu ar y rôl y gwnaethoch gais amdani, gall fod angen i chi gwblhau asesiad fel rhan o broses y cyfweliad. Bydd manylion am hwn yn cael eu darparu ymlaen llaw.
Gofynnir i chi p’un a hoffech chi ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod eich cyfweliad a gallwn drefnu cyfieithydd ar y pryd, os bydd angen, yn amodol ar sgiliau Cymraeg y panel. Bydd y panel dewis yn cynnwys gweithwyr CGA, gan gynnwys cynrychiolydd o’r tîm Adnoddau Dynol.
Yn ogystal, byddwn yn gwirio p’un a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch fel y gallwch gymryd rhan yn gyfforddus a pherfformio ar eich gorau. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Ymrwymedig Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn sicrhau cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy’n bodloni meini prawf hanfodol swydd.
Ar ôl cyfweliad
Os byddwch yn llwyddo yn y cyfweliad, bydd aelod o’r tîm AD yn cysylltu â chi i drafod manylion y cynnig.
Os na fyddwch yn llwyddo yn y cyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r e-bost a chewch gyfle i ofyn am adborth.
Cytuno ar eich dyddiad cychwyn
Bydd ein tîm AD yn eich tywys trwy ddogfennaeth y cynnig a’r gwiriadau cyn-cyflogaeth a wnawn. Ar ôl i ni gwblhau’r broses hon, byddwn yn cytuno ar ddyddiad cychwyn gyda chi.
Sefydlu
Mae ein rhaglen sefydlu gynhwysfawr yn sicrhau bod pob gweithiwr newydd yn ennill dealltwriaeth glir o’i rôl a’i gyfrifoldebau ei hun, ynghyd â rôl pobl eraill ar draws y sefydliad. Yn ystod sefydlu, byddwn hefyd yn esbonio ein polisi prawf ac yn amlinellu’r cymorth sydd ar gael drwy gydol eich cyfnod prawf.
Deallusrwydd artiffisial (AI)
Mae’n bosib y byddwn ni yn CGA yn defnyddio AI i gynhyrchu syniadau ar gyfer hysbysebion swyddi, disgrifiadau swyddi, asesiadau ymarferol, a chwestiynnau cyfweliad, ond ni fyddwn byth yn defnyddio AI i wneud penderfyniadau dewis na chyflogi.
