CGA / EWC

About us banner
Pecyn ymgeiswyr
Pecyn ymgeiswyr

Meithrin ein gweithwyr

Datblygiad proffesiynol

Mae CGA yn ymrwymo i gefnogi ei weithwyr i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn buddsoddi mewn twf proffesiynol trwy raglen hyfforddiant sefydliad cyfan, fframwaith adolygu perfformiad a datblygiad cynhwysfawr, a pholisi dysgu a datblygu pwrpasol ac adnoddau. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn darparu cyfleoedd i weithwyr wella’u perfformiad yn eu rôl bresennol wrth wneud cynnydd tuag at eu dyheadau gyrfaol tymor hwy.

Cymorth

Rydym yn cydnabod bod amgylchiadau pawb yn wahanol a bod adegau pan fydd ar bawb ohonom angen cymorth ychwanegol. Mae gan CGA amrywiaeth o fecanweithiau ar waith, fel gwasanaethau iechyd galwedigaethol (sy’n cynnig cyngor meddygol annibynno pan fydd iechyd a gwaith yn croestorri) a’r hawl i wneud cais am absenoldeb arbennig ar gyfer amgylchiadau proffesiynol a phersonol, er mwyn cynorthwyo gweithwyr i gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Ein polisïau

Bwriedir i’n cyfres gynhwysfawr o bolisïau AD gefnogi gweithwyr trwy gynnig arweiniad clir, teg a chyson ar draws y sefydliad. Mae’r polisïau hyn yn helpu cydweithwyr i ymrafael ag amrywiaeth eang o faterion y gweithle a materion personol, gan gynnig cyngor dibynadwy a chyfeiriadau at gymorth mewnol ac allanol perthnasol. Gyda’i gilydd, maent yn meithrin amgylchedd gwaith diogel, cynhwysol a chefnogol lle gall pawb gael at yr help sydd ei angen arnynt.

Cyfleoedd

Rydym yn ymrwymo i helpu ein pobl i dyfu ac archwilio cyfleoedd newydd. Rydym yn annog gweithwyr i roi cynnig ar bethau newydd trwy gynnig absenoldeb arbennig â thâl ar gyfer gwirfoddoli, gan eu galluogi i roi’n ôl i’w cymuned ac ehangu eu profiadau. Hefyd, rydym yn cynnig amser i ffwrdd a chyllid i weithwyr ymgymryd ag astudiaethau arbenigol ac ennill cymwysterau proffesiynol sy’n berthnasol i’w rôl.