CGA / EWC

About us banner
Pecyn ymgeiswyr
Pecyn ymgeiswyr

Gwerthoedd ein gweithwyr

Mae gwerthoedd gweithwyr CGA, sydd wedi’u llunio gan weithwyr i weithwyr, yn sylfaen i’n hymagwedd at y gwaith rydym ni’n ei wneud:

Tegwch ac Uniondeb

Rydym yn ddibynadwy, yn dryloyw, yn atebol a gallwch ymddiried ynom pan fyddwn ni’n gwneud ein gwaith.

Cefnogaeth

Rydym yn barod i siarad a gwrando, ac mae’n hawdd troi atom, ac rydym yn dangos empathi a charedigrwydd wrth ymwneud ag eraill.

Rhagoriaeth

Rydym yn falch o’r hyn rydym yn ei wneud ac yn cymryd cyfrifoldeb personol am ddarparu gwasanaeth proffesiynol. Rydym yn anelu bob amser at fodloni neu ragori ar ddisgwyliadau cofrestreion a rhanddeiliaid.

Tegwch

Rydym yn gynhwysol ac yn rhoi pwys ar ein cydweithwyr, cofrestreion a rhanddeiliaid fel unigolion, gan barchu eu cefndiroedd a’u profiadau amrywiol.

Cydweithredu

Rydym yn gweithio’n gydweithredol fel tîm ac mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.

Dyfeisgarwch

Rydym yn manteisio ar ein gwybodaeth a’n harbenigedd, ac rydym yn hyblyg ac yn agored i ffyrdd newydd o weithio. Rydym yn cofleidio newid ac arloesedd, ac yn croesawu cyfleoedd i dyfu’n bersonol.