CGA / EWC

About us banner
Recriwtio a dargadw: tueddiadau, heriau a llwybrau polisi
Recriwtio a dargadw: tueddiadau, heriau a llwybrau polisi

10:00-12:00, 13 Tachwedd 2025

Yn y digwyddiad yma fe wnaethom edrych ar recriwtio a dargadw yng ngweithlu addysg Cymru.

Fe wnaethom edrych ar y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn i recriwtio athrawon, a'r categorïau cofrestru eraill, yn ogystal â'r data dargadw arall. Fe wnaethom hefyd glywed gan ein tîm polisi, wnaeth gymharu recriwtio a dargadw mewn gwledydd eraill.

Ar ôl y cyflwyniad, fe wnaethom groesawu panel o arbenigwyr wnaeth roi mewnwelediadau i recriwtio a dargadw i'w lleoliadau, a'u persbectif unigryw ar y materion a drafodwyd.

Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn holi ac ateb.

Lawr lwythwch y cyflwyniad o'r digwyddiad.

Gallwch wylio recordiad o'r digwyddiad ar ein sianel YouTube cyn bo hir.