CGA / EWC

About us banner
Eich CGA: Canllaw hanfodol i'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Eich CGA: Canllaw hanfodol i'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

Ynghylch y digwyddiad

  • 16:00, 20 Mai 2025.
  • Ar-lein (Microsoft Teams)

Ymunwch â ni am y nesaf yn ein cyfres o weminarau Eich CGA lle byddwn yn rhoi trosolwg lefel uchel i chi o'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).

Mae'r PDP yn declyn hanfodol i bob cofrestrai, gan roi lle i chi gynllunio, cofnodi, a myfyrio ar eich dysgu proffesiynol, mewn un platfform hawdd ei ddefnyddio.

P'un a eich bod yn newydd i'r PDP, neu angen eich atgoffa o'i nodweddion, bydd y sesiwn yma'n eich tywys drwy hanfodion allweddol y platfform ac yn esbonio sut y gall elwa eich gyrfa.

Beth fyddwn ni'n ei gynnwys

  • Trosolwg o'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
  • Sut i gyrchu platfform y PDP a gwneud y mwyaf o'i nodweddion
  • Cyngor ar ddefnyddio'r PDP i gynllunio a myfyrio ar eich dysgu proffesiynol

Pwy ddylai fynychu?

Mae'r weminar wedi ei chreu yn arbennig ar gyfer pob un o gofrestreion CGA.

Sut i gofrestru

Cadwch eich lle am ddim nawr ar ein tudalen docynnau.